Geiriad y ddeiseb:
Galwn
ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
ymchwilio i’r problemau a nodwyd yn yr adroddiad diweddar am
yr arolwg o dai yn Aberystwyth yn 2012. Cododd yr adroddiad
bryderon ynghylch safon wael llety myfyrwyr a’r ffordd wael,
sy’n cyfateb i hynny, y caiff myfyrwyr eu trin yn y sector
rhentu preifat. At hynny, galwn ar Lywodraeth Cymru i gynnal
ymgynghoriad llawn ac agored ynghylch y mater angof hwn
gyda’r cymunedau y mae hyn yn effeithio arnynt, yn ogystal
â sicrhau bod deddfwriaeth tai bresennol a mesurau newydd gan
yr awdurdodau perthnasol yn cael eu dilyn yn gywir er mwyn
cynorthwyo i godi safonau yn y sector rhentu preifat.
Mae tai myfyrwyr wedi bod yn broblem gyson yn Aberystwyth ers
blynyddoedd. Cynhaliwyd arolwg ymysg myfyrwyr ynghylch eu profiadau
o ran tai ac mae manylion am y problemau maent yn eu hwynebu
wedi’u cynnwys mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr
2012.
Prif ddeisebydd: Aberystwyth Students Union
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 14 Mai 2013
Nifer y llofnodion : 188